Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes
Cross Party Group on Diabetes
12.10.22. 12:15 – 13:15
Cofnodion
Cadeirydd | Chair: Jayne Bryant AS
Is Cadeirydd | Vice Chair Rhun ap Iorwerth AS
Ysgrifennydd | Secretary: Diabetes UK Cymru, Mathew Norman, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Ymddiheuruadau | Apologies:
• Peredur Owen-Griffiths AS
• Samuel Kurtz AS
• Scott Crawley, Cydgysylltydd Traed Diabetig Cenedlaethol
Yn bresennol | Attendance
• Jayne Bryant AS
• Mark Isherwood AS
• Libby o swyddfa Jayne Bryant AS
• Rhys o swyddfa Rhun ap Iorwerth AS
• Lee Gonzales o swyddfa Joel James AS
• Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru
• Mathew Norman, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Diabetes UK Cymru
• Tess Saunders, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Brenhinol Podiatreg
• Dr Rob Lee, Is-Gadeirydd AWDPRG
• Michelle Moseley, Cynghorydd Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Coleg Nyrsio Brenhinol
• Dr Carys Marshall, Prif Seicolegydd Clinigol, BIP Caerdydd a'r Fro
• Dr Rose Stewart, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac Arweinydd Seicoleg Diabetes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Agenda:
Time | Amser |
|
Pwnc |
|
Topic |
11:45 - 12:15 |
1. |
Cyflwyniadau |
1. |
Introductions |
12:20 |
2. |
Materion yn codi o gyfarfod |
2. |
Matters arising from 5th of |
|
|
5 Gorffennaf 2022 |
|
July 2022 meeting. |
12:25 |
3. |
Arolwg gyda phobl yn byw |
3. |
Missing to Mainstream |
|
|
gyda diabetes gan DUK |
|
Diabetes UK PLWD Survey |
|
|
Cymru ar “Missing to |
|
|
|
|
Mainstream” |
|
|
12:45 |
4. |
Holi ac ateb |
4. |
Q&A |
12:50 |
5. |
Trafodaeth Agored: |
5. |
Open Discussion: Concerns |
|
|
Pryderon ynghylch Costau |
|
relating to the Cost of |
|
|
Byw a Phwysau'r Gaeaf |
|
Living and Winter |
|
|
|
|
Pressures |
13:10 |
6. |
UFA |
6. |
AOB |
13.15 |
7. |
Cau - rydym bellach wedi cytuno ar ddyddiadau tri chyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol |
7. |
Close – We have agreed |
|
|
|
|
dates now for the next 3 |
|
|
|
|
CPGs |
1. Arolwg gyda phobl yn byw gyda diabetes gan DUK Cymru ar “Missing to Mainstream”| Missing to Mainstream Diabetes UK PLWD Survey (20 min)
• Cyflwyniad gan Mathew Norman o Diabetes DU Cymru
• Presentation from Mathew Norman from Diabetes UK Cymru
Y prif ganfyddiadau:
• Dywedodd 81 y cant o’r ymatebwyr eu bod wedi cael trafferth rheoli eu diabetes.
• Dywedodd 71.8 y cant o’r ymatebwyr nad ydynt erioed wedi cael cymorth seicolegol i helpu i reoli eu diabetes
• Mae 20.4 y cant o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth yn cael cymorth seicolegol ar gyfer eu diabetes ar hyn o bryd.
• Dywedodd 90 y cant o’r ymatebwyr sy’n cael cymorth ar hyn o bryd eu bod naill ai’n fodlon neu’n fodlon iawn â’u cymorth.
• Dywedodd 38.5 y cant o’r holl ymatebwyr eu bod wedi cael anhawster o ran cael cymorth seicolegol.
• Roedd llawer o’r rhwystredigaethau a leisiwyd yn ymwneud â’r ffaith nad oes cymorth seicolegol ar gael, diffyg apwyntiadau/cyswllt â meddyg teulu, byth yn cael cynnig y cymorth neu nad oedd byth yn cael ei drafod.
• Dywedodd 50.6 y cant o’r ymatebwyr nad ydynt yn gwybod ble i fynd os bydd angen cymorth arnynt.
• Dywedodd 51.2 y cant o’r ymatebwyr, os byddai angen cymorth arnynt ar gyfer eu hiechyd meddwl sy’n gysylltiedig â diabetes, y byddent yn siarad â’r GIG yn gyntaf, ac yna 28.7 y cant a ddywedodd y byddent yn siarad â theulu, yna 10.3 y cant a ddywedodd y byddent yn siarad â Diabetes UK.
• Dywedodd 37.4 y cant o’r ymatebwyr eu bod wedi profi’r stigma mewn perthynas â’u diabetes.
• Dywedodd 77.6 y cant o’r ymatebwyr eu bod yn meddwl nad yw'r cyhoedd yn deall diabetes o gwbl neu ddim yn dda iawn. Dim ond 1.2 y cant a ddywedodd eu bod yn meddwl bod gan y cyhoedd ddealltwriaeth dda o ddiabetes.
• Dywedodd 25.9 y cant o’r ymatebwyr eu bod yn meddwl nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol (cyffredinol) yn deall diabetes o gwbl neu ddim yn dda iawn. Mae 47.1 y cant yn meddwl bod ganddyn nhw rywfaint o ddealltwriaeth. Mae 27.0 y cant yn meddwl bod ganddynt ddealltwriaeth dda neu wych.
• Mae arnom angen mwy o fynediad at gymorth seicolegol a dealltwriaeth o ble i ddod o hyd i gymorth.
• Roedd llawer o’r rhwystredigaethau a leisiwyd yn ymwneud â’r ffaith nad oes cymorth seicolegol ar gael, diffyg apwyntiadau/cyswllt â meddyg teulu, byth yn cael cynnig y cymorth/nad oedd byth yn cael ei drafod.
• Maent yn fodlon/bodlon iawn pan fyddant yn cael cymorth seicolegol.
• Dywedodd dros draean o’r ymatebwyr eu bod wedi profi’r stigma mewn perthynas â’u diabetes.
• Mae angen gwell dealltwriaeth yn gyffredinol o ddiabetes ar lefel HCP.
• Mae angen lefel uwch o ddealltwriaeth gan y cyhoedd, yn enwedig o ran gwahanol fathau a sut i reoli’r cyflwr.
• Mae angen ystyried yr effaith ar deulu, ffrindiau a gweithleoedd.
2. Holi ac ateb | C&A (10 munud)
• Cwestiynau i DUK gan y mynychwyr yn bersonol ac ar-lein
• Questions to DUK from the attendees in person and virtually
• Nododd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a oedd yn bresennol eu siom bod rhai pobl sy'n byw gyda diabetes yn teimlo nad oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn teimlo empathi am eu cyflwr.
• Dywedodd Mark Isherwood AS fod ymatebion gan bobl sy’n byw gyda diabetes yn atgoffa rhywun o'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau prinnach a llai adnabyddus. Nododd fod rhai o'r pryderon a godwyd ynghylch cyflogaeth yn torri'r gyfraith a bod angen cefnogaeth/dealltwriaeth o hawliau pobl sy’n byw gyda diabetes.
• Cododd Rob Lee y pryderon ynghylch stigma, yn enwedig i’r rhai sy’n byw gyda diabetes math 2.
• Cytunodd y grŵp trawsbleidiol y dylid ysgrifennu llythyr at y Dirprwy Weinidog Lynne Neagle AS i dynnu sylw at ganlyniadau’r arolwg/ymchwil i gefnogi galwadau am fwy o fynediad ac ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
3. Trafodaeth Agored: Pryderon ynghylch Costau Byw a Phwysau'r Gaeaf | Open
Discussion: Concerns relating to the Cost of Living and Winter Pressures (20 munud)
• Bydd pawb sy'n bresennol yn rhannu eu pryderon am argyfyngau costau byw i'r rhai sy'n byw gyda diabetes. Gallai'r drafodaeth arwain at gamau i'r Grŵp eu cymryd a/neu Diabetes UK Cymru.
• All attendees will share their concerns about the cost of living crises for those living with diabetes. The discussion could lead to actions for the CPG to undertake and/or Diabetes UK Cymru.
•
• Agorodd Rachel Burr o DUK Cymru y drafodaeth a mynegodd bryderon gan bobl sy’n byw gyda diabetes ynghylch cost bwyta’n iach a rheoli eu diabetes yn ystod y cyfnod anodd hwn.
• Yn sgil pryderon a godwyd ynghylch deall bwydydd gwerth da sy’n helpu i reoli diabetes, cododd Lee Gonzalez eitemau fel uwd a sinamon y mae’n eu defnyddio i fwydo’i fab ac yn helpu i reoli lefelau glwcos yn y gwaed.
• Nodwyd bod eitemau i helpu gyda lefelau siwgr isel fel hoff ddiodydd meddal neu rai adanabyddus sy’n helpu yn mynd yn rhy ddrud.
• Mynegwyd pryderon ynghylch effaith prydau ysgol am ddim, yn enwedig ansawdd bwyd wrth i brisiau barhau i godi a chyllidebau yn aros yr un fath.
• Nodwyd math newydd/rhyfedd o ddiabetes sydd wedi'i gysylltu â phobl sy'n byw gyda Covid hir, lle nad yw'r math yn glir.
• Trafodwyd deiet llysieuol a diabetes, gyda rhai yn nodi nad oedd cymorth ar gyfer deiet amrywiol ar gael yn eang ac y byddai mwy yn cael ei groesawu i gynorthwyo pobl ag anghenion deietegol gwahanol.
• Nodwyd bod taliadau ar gyfer y costau uwch sy'n gysylltiedig â chyflyrau wedi'u codi yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes fel modd o gefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor.
• Mynegwyd pryderon am bobl a gafodd ddiagnosis o ddiabetes yn ystod Covid-19, lle na chafwyd cefnogaeth a dealltwriaeth glir o’r cyflwr i’r rhai â diagnosis newydd. Croesewir gofal wedi’i lywio gan drawma a chydraddoldeb gofal i gefnogi pobl sydd newydd gael diagnosis yn ystod cyfnod anodd.
• Croesewir hefyd gefnogaeth ynghylch cyflyrau a all ddeillio o ddiabetes. Trafodaethau ynghylch mynediad at optegwyr da a mynediad at brofion mewn fferyllfeydd cymunedol.
4. UFA
• Digwyddiad y Senedd Peter Baldwin yn 21 oed ar 6 Rhagfyr gyda'r nos (18:00 – 20:00).
o Ddiweddariad Ymgyrch 4Ts o Cyflwyniad Astudiaeth ELSA o Y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i'w gadarnhau
5. Cau | Close
• Cyfarfod nesaf - Dyddiad yw:
o 18.01.23 o 26.04.23
o 28.06.23
• Ewch ag unrhyw fwyd dros ben yn ôl gyda chi i'r swyddfa/cartref os yn bersonol
• Peter Baldwin 21st Senedd Event on the evening of the 6th of December (18:00 – 20:00).
o 4Ts Campaign Update o ELSA Study Presentation o Minister for Health &
Social Services tbc
• Next meeting dates are:
o 18.01.23 o 26.04.23 o 28.06.23
• Take any left-over food back with you to office/home if in person
• Diwrnod Diabetes y Byd ar y 14 Tachwedd, felly mae Jayne Bryant AS yn bwriadu cyflwyno Datganiad Barn ar gyfer y diwrnod (wythnos ynghynt) ac efallai y bydd peth gweithredu gan DUK Cymru yn y Senedd yr wythnos flaenorol, gan weithio gyda thîm Jayne Bryant MS i drefnu hynny.